SL(5)360 – Rheoliadau Clefydau Egsotig mewn Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau Clefydau Egsotig mewn Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (“y Rheoliadau hyn”) wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy'n gymwys o ran Cymru, ym maes rheoli ac atal clefydau egsotig mewn anifeiliaid.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir pedwar pwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu'r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 3(2) o'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at gyfeiriadau at “Member States” ac “Erthygl 2(u) o Gyfarwyddeb 2001/89/EC” ym mhwynt 3.2 o Atodiad X i Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/85/EC (“Cyfarwyddeb 2003”). Fodd bynnag, nid yw'r un o'r cyfeiriadau hyn yn ymddangos ym mhwynt 3.2 o Atodiad X i Gyfarwyddeb 2003. Fodd bynnag, mae'r ddau yn ymddangos ym mhwynt 3.1 o Atodiad X i Gyfarwyddeb 2003, sy'n awgrymu mai hwn oedd y cyfeiriad priodol.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu'r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 4(2) o'r Rheoliadau hyn yn disodli geiriad yn rheoliad 9(5) o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006. Effaith y geiriad newydd hwn yw bod rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau y gwneir gwaith brechu yn unol â'r cynllun brechu ataliol a gymeradwywyd yn unol ag Erthygl 56(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC (“Cyfarwyddeb 2005”), fel y'i darllenir gydag Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/598. Fodd bynnag, mae Erthygl 56(2) o Gyfarwyddeb 2005 yn darparu bod rhaid cyflwyno'r cynllun brechu ataliol i Gomisiwn yr UE er mwyn ei gymeradwyo, ac nid yw'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y cyfeiriad at Gomisiwn yr UE yn Erthygl 56(2) o Gyfarwyddeb 2005 yn cael ei ddarllen yn wahanol. Felly, ymddengys fod hyn yn ddiffygiol.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu'r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 7(3) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor y gair “other” o erthygl 9(1) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”). Fodd bynnag, mae'r gair “other” yn ymddangos ddwywaith yn erthygl 9(1) o Orchymyn 2006. Nid yw'n glir a yw rheoliad 7(3) o'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at y ddau achos lle mae'r gair “other” yn ymddangos, yn enwedig o wybod bod un o'r cyfeiriadau, “other captive bird”, yn ymadrodd diffiniedig yn erthygl 2 o Orchymyn 2006.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu'r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 7(5) o'r Rheoliadau hyn yn dirymu paragraffau (1)(b) a (2) o erthygl 12 o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006. Fodd bynnag, mae'r darpariaethau hyn eisoes wedi'u dirymu gan Reoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Dylai'r cyfeiriad at “the Foot and Mouth Disease (Wales) Order 2006” yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn (Saesneg yn unig) ddarllen “the Foot-and-Mouth Disease (Wales) Order 2006”, gan gynnwys y llinellau toriad.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Pwyllgor wedi codi pedwar pwynt adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2.

(1) Croesgyfeiriad

Mae’r pwynt adrodd cyntaf yn ymwneud â chroesgyfeiriadau anghywir. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwynt. Bydd diwygiad yn cael ei wneud pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

(2) Diwygio Offeryn gan yr UE

Gwneir diwygiadau i Benderfyniad y Comisiwn 2007/598 gan Reoliad 13 o Reoliadau Clefydau Egsotig (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018 Rhif 1410 sy’n cael yr effaith na fydd y Comisiwn bellach yn cymeradwyo cynlluniau brechu ataliol a fydd yn cael eu gwneud yn y dyfodol.

Mae paragraff (1) o erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/598 yn darparu ar gyfer cymeradwyo cynlluniau brechu ataliol a gyflwynir yn unol ag Erthygl 56(2) o Gyfarwyddeb 2005/94/EC ac a restrir yn Rhan I o Atodiad III i’r Penderfyniad hwnnw. Mae paragraff (2) o erthygl 5 yn darparu bod y Comisiwn i gyhoeddi’r cynlluniau brechu ataliol a gymeradwywyd y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Clefydau Egsotig (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018 yn rhoi erthygl newydd yn lle erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/598/EC ac effaith hynny yw bod cynlluniau brechu ataliol ar gyfer y Deyrnas Unedig sydd eisoes wedi eu cyflwyno yn unol ag Erthygl 56(2) o Gyfarwyddeb 2005/94/EC ac wedi eu cymeradwyo gan Gomisiwn yr UE ar 27 Mehefin 2007 o dan Erthygl 57(2) o’r Gyfarwyddeb honno yn parhau i fod mewn grym.

 

Mae’r diwygiad hefyd yn darparu bod rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, gyda chydsyniad pob awdurdod arall sy’n Weinidog priodol mewn perthynas ag unrhyw ran gyfansoddol o’r Deyrnas Unedig, gyhoeddi cynlluniau brechu ataliol a gymeradwywyd o dan Erthygl 57 o Gyfarwyddeb 2005/94/EC, ar y sail bod swyddogaethau’r Aelod-wladwriaethau i’w darllen fe pe baent yn cyfeirio at swyddogaethau’r Gweinidog priodol.

(3) Cyfeiriad at y term “other”

Mae rheoliad 7(3) o’r Rheoliadau hyn yn hepgor y gair “other” o erthyglau 9(1), 10(1) ac 11(1) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”). Er bod y gair “other” yn ymddangos ddwywaith yn erthygl 9(1) o Orchymyn 2006, mae’n glir bod rheoliad 7(3) o’r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at yr achos pan fo’r gair yn ymddangos cyn “member state”, o ystyried bod y diwygiadau yn cael eu gwneud er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol, a bod yr un diwygiadau yn cael eu gwneud mewn perthynas ag erthyglau 10(1) ac 11(1).

(4) Dirymu darpariaeth

Mae rheoliad 7(5) o’r Rheoliadau hyn yn dirymu paragraffau (1)(b) a (2) o erthygl 12 o  Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 mewn Dofednod) (Cymru) 2006. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y darpariaethau hyn eisoes wedi eu dirymu gan Reoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018. Bydd diwygiad yn cael ei wneud pan fydd y cyfle nesaf yn codi.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

11 Mawrth 2019